Llanbedrog.com
Corddi Menyn / Butter Churning
Yn 1977, daeth oes gwerthu llefrith i'r ffatri laeth mewn caniau llaeth i ben ym Mhen Llŷn. Bu'n rhaid i'r tyddynoedd bychain y naill â'i rhoi'r gorau i gynhyrchu llaeth neu buddsoddi mewn tanciau mawrion. Roedd y ffordd i Bengamfa yn rhy gul i lorri fawr ddod i fynnu i nol y llefrith a doedd dim dewis ond cael gwared â'r gwartheg. Ond beth i wneud â'u llefrith yn y cyfamser? Beth am atgyfodi'r hen faeddau a dechrau corddi?
In 1977, selling milk in milk to the creamery in churns came to an end on the Llŷn Peninsula. The small farms had to either give up milk production or invest in large bulk tanks. The road to Pengamfa was too narrow for a bulk tanker and the only option was to get rid of the cows. But what was to be done with their milk in the meantime? What about resurrecting the old butter churn and start churning butter?
Cliciwch ar y lluniau i'w gwneud yn fwy. / Click on photos to enlarge.
Hidlo'r llefrith cyn ei dollti i'r faeddau / Filter milk prior to pouring into butter churn. |
Troi'r faeddau am dri chwarter awr / Turn the churn for three quarters of an hour. |
Rhoi tecelled mawr o ddŵr poeth yn y faeddau / Pour a large kettle full of hot water into the churn. |
Codi'r menyn allan o'r faeddau hefo'r gwpan denau / Lifting the butter out of the churn with the "thin cup." |
Codi'r menyn i'r noe / Lifting the butter into the wooden dish. |
Asgell y faeddau / Inside the butter churn. |
Y menyn a'r gwpan denau yn y noe / Butter and "thin cup" in wooden dish. |
Cymysgu'r menyn a'r halen / Mixing the butter and salt. |
1. Rhoi ychydig o lefrith wedi suro mewn pot
llaeth pridd. 2. Tollti llefrith i'r pot llaeth. 3. Rhoi'r llefrith a dŵr poeth yn y faeddau a'i throi am dri chwarter awr. 4. Rhoi tecelled mawr o ddŵr poeth yn y faeddau. 5. Troi handlan faeddau. 6. Agor y twll bach yng nghaead y faeddau i edrych am dameidiau o fenyn. Siglo'r faeddau i weld y menyn yn ymgasglu. 7. Codi'r menyn allan o'r faeddau hefo'r gwpan denau. 8. Rhoi'r menyn yn y noe. 9. Tynnu'r llaeth o'r menyn yn y noe hefo'r gwpan denau. 10. Rhoi dyrned o halen yn y menyn a'i gymysgu hefo'r gwpan denau. 11. Codi'r menyn o'r noe hefo'r gwpan denau. Siapio'r menyn a rhoi stamp arno hefo'r brintan. |
1. Put a little sour milk in an earthenware
milk jar. 2. Pour milk into the jar. 3. Pour the milk and hot water into the butter churn and turn for three quarters of an hour. 4. Pour a large kettleful of water into the churn. 5. Turn the handle of the churn. 6. Open the small hole in the churn lid to look for lumps of butter. 7. Lift butter out of the churn with the "thin cup" (a wooden saucer). 8. Put the butter in the large wooden dish. 9. Remove milk from butter using the wooden saucer. 10. Place a handful of salt into the butter and mix with the wooden saucer. 11. Lift the butter from the wooden dish with the wooden saucer. Shape the butter and stamp it. |
Copyright © Llanbedrog.com 2005